Translate

Tuesday, 14 December 2010

Y Goeden Nadolig

Heddiw, rwyf wedi gorffen addurno'r goeden Nadolig.  Ni gymerodd amser hir, bod yn onest, ac efallai, dros y wythnos nesaf, byddaf yn ychwanegu ati hi.   Ond fy hoff beth am y Nadolig ydy'r goeden Nadolig.   Nid wyf yn llenwi'r tŷ efo llawer o addurniadau - yn ôl fy ngŵr - dim ond casglu llwch ydyn nhw - ond rwyf yn mynnu gosod y goeden mewn cornel yn y lolfa.

Dyma fo - un efo fflach ac un heb y fflach.



Mae'r lliwiau yn newid trwy'r amser ac mae'n hyfryd.  Rwyf yn hoff iawn o orwedd ar y soffa, yn y twyllwch a gwylio'r goleuadau'n newid  a serennu.   Opteg ffibrau ydyn nhw, wrth gwrs.